Mae’r twll yn yr haen osôn ger Pegwn y De ar ei leiaf ers iddo gael ei ddarganfod – ond mae hynny o ganlyniad i dywydd rhyfedd yr Antarctig yn hytrach na lleihad mewn llygredd, meddai NASA.
Yr hydref hwn, mae’r twll yn yr haen sy’n amddiffyn y Ddaear, ar gyfartaledd, yn mesur 3.6 miliwn o filltiroedd sgwâr, o gymharu â’r 10.3 miliwn o filltiroedd sgwâr yn 2006.
Ac mae’r twll yn yr haen eleni hyd yn oed yn llai na’r un a ganfuwyd gyntaf yn 1965.
“Mae hyn yn newyddion da,” meddai llefarydd ar ran yr asiantaeth ofod. “Mae’n golygu fod yna fwy o osôn dros hemisffêr y de, a llai o belydrau uwch-fioled yn cyrraedd y Ddaear.”
Mae’r twll yn yr haen ar ei fwyaf ym misoedd Medi a Hydref bob blwyddyn, ac yna’n diflannu erbyn diwedd Rhagfyr cyn ail-ymddangos eto yn y gwanwyn/