Mae ymgyrchwyr wedi gofyn am ymddiheuriad gan Brif Weinidog Cymru Mark Drakeford gan honni ei fod wedi dweud “celwydd” mewn llythyr atyn nhw am ei safbwynt ar enw’r Senedd.

Ym mis Tachwedd y llynedd dywedodd Mark Drakeford mai’r term uniaith Gymraeg “Senedd” y byddai’n ei ddewis ar gyfer enw’r sefydliad.

Ond roedd yn absennol o’r bleidlais ar enw’r Senedd ar ddechrau’r mis ond roedd pob Gweinidog arall wedi eu chwipio i bleidleisio dros ychwanegu enw Saesneg i’r ddeddfwriaeth.

Yn ôl Cymdeithas yr Iaith, dywedodd Mark Drakeford wrthyn nhw mai enw uniaith Gymraeg fyddai’n ei gefnogi, mewn cyfarfod ym mis Gorffennaf.

Ond mewn llythyr at y mudiad wedi’r bleidlais ar ddeddfwriaeth i newid enw’r Cynulliad, yn ceisio amddiffyn safbwynt y Llywodraeth, dywedodd y Prif Weinidog: “Fel y dywedais yn ein cyfarfod fis Gorffennaf, cefnogaf yn llwyr y defnydd bob dydd o ‘Senedd’ yn ein dwy iaith swyddogol.

“Serch hynny, dywedais hefyd y gall fod angen gwahaniaethu rhwng y realiti ymarferol o ba enw a ddefnyddir ar y naill law a’r gwaith technegol o ddrafftio’r ddeddfwriaeth berthnasol ar y llall… bydd weithiau angen i Ddeddfau deddfwrfeydd eraill y DU gyfeirio at ddeddfwrfa Cymru. Byddai defnyddio “Senedd Cymru” (yn unig) o leiaf yn cynnwys cyfeiriad at Gymru ond nid yw hynny ond yn hygyrch o hyd i’r rhai sy’n deall Cymraeg. Yn fwy cyffredinol, wrth enwi ein deddfwrfa yn ffurfiol dymunaf weld ein dwy iaith swyddogol yn cael eu trin yn gyfartal.”

“Anonest”

Wrth ymateb dywed Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, Bethan Ruth Roberts mewn llythyr at Mark Drakeford: “Yn ôl dirprwyaeth y Gymdeithas fuodd yn y cyfarfod gyda chi ym mis Gorffennaf eleni, ni sonioch ddim gair am unrhyw reswm dros ychwanegu enw Saesneg i’r ddeddfwriaeth fel yr honnir yn eich llythyr. Nid ydym yn defnyddio’r geiriau hyn yn ysgafn: rydych wedi bod yn anonest ar y mater hwn. Hoffem felly dderbyn ymddiheuriad am y celwydd hwnnw yn eich llythyr atom.

“Mae’n glir o’n cyfarfod gyda’r Prif Gwnsler Deddfwriaethol nad oes rhwystr cyfreithiol i nodi enw uniaith Gymraeg yn y ddeddfwriaeth.”

Mae Bethan Ruth Roberts yn ychwanegu bod nifer o’u haelodau wedi eu “siomi’n fawr” gan y tro pedol: “Y ffordd orau o sicrhau mai enw Cymraeg yw’r norm yw peidio â rhoi enw Saesneg ar y sefydliad o gwbl. O’r Knesset, i’r Dáil a’r Bundestag – mae enwau seneddau ar draws y byd yn cael eu defnyddio a’u deall yn rhyngwladol, ac yn ddatganiad o hyder y cenhedloedd hynny ynddyn nhw eu hunain a statws eu hieithoedd.”