Mae Brexit wedi troi’r Deyrnas Unedig yn destun sbort i weddill Ewrop, yn ôl Cymro sy’n byw yn Awstria ers dros ddeugain mlynedd.

Yn wreiddiol o Gastell Newydd Emlyn, mae John Morgan yn byw yn ninas Fienna, a bellach mae’n ystyried cefnu ar ei ddinasyddiaeth Brydeinig.

Yn siarad y llynedd dywedodd nad oedd yn disgwyl i Brexit ddigwydd – ac mae’n dal i gredu hynny.

Dyw e ddim yn credu bod Ewrop yn dal dig yn erbyn gwledydd Prydain am bleidleisio tros adael, ond mae’n credu ei bod yn cael ei thrin yn jôc mwyach. 

“Yr unig sylw mae’n ei gael yw mae pob un yn jocan obeutu e,” meddai wrth golwg360

“Ar y cyfandir i gyd mae pobol yn chwerthin pan mae’n clywed fy mod i’n dod o Brydain Fawr. Chwerthin maen nhw am ein pennau ni.”

Pasborts a theiars

Mae John Morgan wedi treulio’r rhan fwyaf o’i oes yn gweithio ym maes teiars ac mae’n dal i deithio tipyn o amgylch Ewrop yn ymgynghori. 

Mae’n dweud ei fod wedi cael trafferth wrth drefnu fisa i Rwsia gan fod swyddogion wedi pryderu y gallai Brexit ddigwydd tra’i fod yno, ond bellach mae wedi derbyn y fisa hwnnw. 

Dim ond dinasyddiaeth Brydeinig sydd ganddo ar hyn o bryd, ond os bydd Brexit yn digwydd mae’n dweud y byddai’n ceisio am ddinasyddiaeth Awstraidd neu Lwcsembergaidd.

“Os fydda’ i’n cael unrhyw rwystr o gario pasbort Prydeinig mi fydda’ i’n cael gwared arno fe. Dw i wedi cael llond bola!” meddai.