Er bod ganddo bryderon, mae pysgotwr o Ben Llŷn yn dal i gredu y bydd Brexit yn dod â “chyfleon” i’w ddiwydiant.

Yn siarad â golwg360 ym mis Mawrth y llynedd, soniodd am ei awydd i fod yn rhydd o gyfyngiadau’r Undeb Ewropeaidd, gan dderbyn hefyd y gallai’r ymadawiad gael effaith ar ei sector.

Mae’r Deyrnas Unedig yn dal i fod yn aelod o’r Undeb er bod disgwyl iddi adael ar Fawrth 29, ac mae hynny’n destun rhwystredigaeth i Siôn Williams.

Ond ar y cyfan dyw ei safiad ddim wedi newid rhyw lawer mewn blwyddyn, ac mae ganddo deimladau cymysg am Brexit.

“Mae yna bosibiliadau a chyfleon,” meddai wrth golwg360. “Ond mae yna bryderon hefyd. Y peth pwysicaf i fi, a’r rhan fwyaf o bysgotwyr Cymru, yfi cael y pryderon yma o’r ffordd yn gyntaf. 

“Does dim pwynt cael cyfleoedd ryw ddwy, dair blynedd lawr y lôn os ydach yn mynd i fynd allan o fusnes yn y cyfamser am bo chi wedi methu gwerthu’ch cynnyrch. 

“Os na fydd y diwydiant yn cael ei ddiogelu mewn sefyllfa dim dêl, fydd yna ddim diwydiant ar ôl i gael manteisio ar y cyfleoedd yma. Mae’n bwysig i’r gwleidyddion weld hynny rŵan.”

Misoedd o ansicrwydd

Pysgota ym Mhorth Colmon y mae Siôn Williams, a physgod cregyn mae’n eu dal gan fwyaf – er ei fod yn gwerthu ychydig bach o bysgod hefyd.

Mae ei fywoliaeth yn dibynnu ar fympwy’r farchnad a’r moroedd, ac mae’r misoedd o ansicrwydd ers Mawrth 29 wedi peri trafferth iddo, meddai. 

“Dydi lot o wleidyddion ddim yn dallt sut mae llusgo pethau ymlaen, a sut mae peidio â dod i gytundeb yr un ffordd neu’r llall, yn cael effaith ar y bobol gyffredin sy’n gweithio ar lawr gwlad,” meddai.

“Maen nhw’n cael eu talu. Beth bynnag sy’n digwydd, maen nhw’n cael cyflog o’r banc, ac maen nhw’n cael hawlio eu costau…

“Ond os ydan ni eisiau buddsoddi yn y busnes pysgota, mi fyddai’n wirion iawn buddsoddi ar hyn o bryd heb fod yn siŵr be’ sy’n mynd i ddigwydd.”

Goblygiadau

Yn ôl asesiadau Llywodraeth y Deyrnas Unedig o oblygiadau Brexit heb gytundeb, mae’n bosib y bydd ciwiau o lorïau mewn porthladdoedd yn sgil yr ymadawiad. 

Gallai hynny olygu y bydd bwydydd ffres – gan gynnwys pysgod cregyn a fydd yn cael eu hallforio i Ewrop – yn pydru yn y cerbydau, ac yn ôl Siôn Williams, byddai pysgotwyr yn “dioddef”.

Mae tua 90% o bysgodfeydd Cymru yn dal pysgod cregyn, a thua 90% o’u cynnyrch yn cael ei allforio i Ewrop.