Mae cynghorydd o Ynys Môn wedi wfftio pryderon y gallai dêl Brexit Boris Johnson achosi problemau i borthladd Caergybi.
Ddydd Iau (Hydref 17) daeth i’r amlwg bod Prif Weinidog y Deyrnas Unedig wedi taro cytundeb â’r Undeb Ewropeaidd, a daeth pryderon u’r amlwg yn syth wedi hynny.
Byddai Brexit â’r ddêl yma, yn ei hanfod, yn creu ffin ar hyd Môr Iwerddon, ac mae rhai’n credu y gallai hynny achosi problemau i borthladdoedd Cymru.
Beth am Gaergybi?
Un o’r porthladdoedd yma yw porthladd Caergybi, ac mae cynrychiolydd y dref ar Gyngor Sir Ynys Môn, Shaun James Redmond, yn wfftio’r ofnau’n llwyr.
“Dw i ddim yn gweld hynny o gwbwl,” meddai’r cynghorydd sy’n galw’i hun yn “hardline Brexiteer” wrth golwg360.
“Dw i wedi cael trafodaethau â gwleidyddion ar draws gogledd Cymru ac yn San Steffan am y syniad y gallai Caergybi ddod yn borthladd rhydd.
“Wel, mi fydd yn dod yn borthladd rhydd wedi Brexit. Fydd hynny ond yn gwella’r sefyllfa i Gaergybi ac yn caniatáu i fwy o fasnach ddod trwy Gaergybi gyda llai o drafferth.
“Mae llawer o straeon arswyd yn cael eu cylchredeg gan bobol sydd jest ddim am i Brexit ddigwydd. Rhaid i ni ganolbwyntio ar ffeithiau a beth ydi realiti’r sefyllfa.”
Beth yw porthladdoedd rhydd?
Mae Boris Johnson wedi ystyried y posibiliad o sefydlu porthladdoedd rhydd yn y Deyrnas Unedig – ardaloedd sydd â lefel isel o drethi, neu dim trethi o gwbwl.
Mae’r cwmnïau sy’n gweithredu oddi fewn i borthladdoedd rhydd yn medru osgoi trethi yn llwyr trwy weithredu oddi fewn iddyn nhw, ac maen nhw, yn eu hanfod, yn bodoli y tu allan i ffiniau.
Yn siarad â’r wefan hon y llynedd – a chyn dyddiad terfyn gwreiddiol Brexit, Mawrth 29 – awgrymodd y cynghorydd y dylai Caergybi geisio denu cargo rhyngwladol.
“Synnwyr cyffredin”
Ym mis Medi cafodd asesiadau eu cyhoeddi gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig o effeithiau posib Brexit heb gytundeb.
Mae’r ddogfennaeth yn cynnig darlun gwael o oblygiadau’r fath ymadawiad, ac mae’n darogan y bydd ciwiau hir ym mhorthladdoedd gwledydd Prydain ar Dachwedd 1. Gwrthod hyn mae’r cynghorydd.
“Dw i ddim yn medru gweld y nonsens yma o lorïau yn cael eu parcio hanner ffordd i lawr yr A55 y tu allan i Gaergybi,” meddai.
“Dw i methu gweld hynna’n digwydd o gwbwl. Dw i’n credu mai synnwyr cyffredin fydd yn trechu yn y pen draw, ac y bydd busnes yn mynd yn ei flaen.”