Mae Cyngor Gwynedd wedi penderfynu peidio adolygu’r Cynllun Datblygu Lleol a allai olygu caniatáu codi miloedd o dai yno dros gyfnod o 15 mlynedd.

Bu cynghorau Gwynedd a Môn yn creu cynllun ar y cyd i ganiatáu codi tros 7,000 o dai newydd yn y siroedd, ond mae ymgyrchwyr iaith yn dweud nad oes angen cymaint o dai gan nad ydy’r gwaith o godi ail atomfa ym Môn yn mynd yn ei flaen.

Bu i gwmni Hitachi o Japan atal datblygiad Wylfa Newydd ym mis Ionawr 2019.

 “Angen ailystyried y cynllun”

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi beirniadu Cyngor Gwynedd am beidio adolygu’r Cynllun Datblygu Lleol.

“Wylfa B oedd yn gyrru’r Cynllun Datblygu Lleol felly rydym wedi syfrdanu fod Cabinet Cyngor Gwynedd wedi derbyn yr adroddiad monitro sydd, i bob pwrpas, yn diystyru penderfyniad cwmni Hitachi i atal y datblygiad,” meddai Gwion Emyr, swyddog maes Cymdeithas yr Iaith yn y Gogledd.

“Mae gwir angen ailystyried y cynllun a hynny ar fyrder. Rydym wedi dadlau ers tro bod gwthio am atomfa newydd yn beryg i’r iaith, yr amgylchedd ac yn ddatblygiad dibwys o ddrud.”

Mae disgwyl i Gyngor Môn ystyried a fyddan nhw’n adolygu’r Cynllun Datblygu Lleol yn hwyrach yn y mis.

Yr adroddiad 

Roedd Adroddiad Monitro Blynyddol i weld yn anwybyddu penderfyniad cwmni Hitachi o Japan (perchnogion cwmni Horizon Nuclear Power Limited)  i atal datblygiad Wylfa B ym mis Ionawr 2019, gan ddyfynnu’r ffaith fod y broses gynllunio yn dal i fynd rhagddi.

Mae’n nodi fod Hitachi yn “bwriadu oedi gyda’r bwriad o ddatblygu’r Orsaf Niwclear Newydd” ac “Wrth asesu perfformiad y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd, yn ogystal ag ystyried y dangosyddion, mae rhaid i’r Adroddiad Monitro Blynyddol ystyried unrhyw newidiadau cyd-destunol cenedlaethol, rhanbarthol a lleol sydd wedi digwydd yn y flwyddyn flaenorol.”

Roedd swyddogion yn argymell peidio â newid y cynllun yn sgil penderfyniad Hitachi i dynnu allan o Wylfa B gan ddweud “nid oes tystiolaeth sy’n dangos bod angen adolygiad cynnar o’r Cynllun”.

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Gyngor Gwynedd.