Mae yn “warthus” nad yw cwmni theatr cenedlaethol National Theatre Wales yn mynd â’u drama ddiweddaraf ar daith o amgylch Cymru.
Dyna mae’r actores adnabyddus Sharon Morgan wedi ei ddweud wrth gylchgrawn Golwg yr wythnos hon.
Fe gafodd On Bear Ridge ei pherfformio am bythefnos yn Theatr y Sherman yng Nghaerdydd yn ddiweddar, ac fe fydd ymlaen am fis yn y Royal Court Theatre yn Llundain ymhen wythnos.
Rhys Ifans yw seren y ddrama gan Ed Thomas am berchnogion siop mewn ‘pentref coll’ sy’n ‘yfed y wisgi sy’n weddill ac yn hel atgofion am y dyddiau da… pan oedd yr hen iaith yn disgleirio’.
Fe aeth yr actores Sharon Morgan i weld On Bear Ridge yn Theatr y Sherman yng Nghaerdydd, ac mae hi’n gweld bai ar gwmni National Theatre Wales am beidio mynd â’r cynhyrchiad i theatrau eraill ledled y wlad.
“Dw i’n meddwl bod e’n warthus o beth, gan fod e’n trafod ein hunaniaeth ni a cholli’r iaith, mae’n hollbwysig bod e’n teithio,” meddai Sharon Morgan sy’n actio ers deugain mlynedd a mwy ac wedi ennill tair BAFTA.
“Mae [On Bear Ridge] yn mynd i’r Royal Court [Theatre] am fis yn Llundain ond dim ond yng Nghaerdydd [fu cyfle i’w weld yma yng Nghymru]…
“Dyw gweddill Cymru ddim yn cael unrhyw fudd o’u cwmni cenedlaethol nhw.”
“Lot fawr wedi gorfod teithio o’r gogledd”
Mae Sharon Morgan yn poeni bod Cymry sy’n byw ymhell o Gaerdydd wedi methu â chael gweld y ddrama, am nad ydy hi’n teithio.
“Roeddwn i yn y gynulleidfa un noson [yn Theatr y Sherman] ac roedd yna lot fawr o bobol wedi gorfod teithio lawr o’r gogledd. Ac fel ry’n ni’n gwybod, dyw e’ ddim yn hawdd teithio o ogledd Cymru lawr i Gaerdydd. Dyw pawb ddim â’r amser na’r arian i wneud. Mae e’n gostus.
“Dyle bod ein cwmni cenedlaethol ni yn llwyfannu dramâu ac yn teithio o gwmpas Cymru gyda’r dramâu hynny, er mwyn bod yn rhan o’r sgwrs genedlaethol ynglŷn â phwy ydym ni a’n hunaniaeth ni… mae’r ddrama yn trafod ein hiaith ni, marwolaeth ein hiaith ni mewn modd dirdynnol.
“Ac os nad ydyn ni yn gallu mynd â hwnnw trwy ein gwlad ein hunain, ble allwn ni fynd â hi?”
Nid oedd National Theatre Wales am egluro pam nad ydyn nhw yn mynd ag On Bear Ridge ar daith drwy Gymru.
Ac nid oedd Cyngor Celfyddydau Cymru am wneud unrhyw sylw am gwynion Sharon Morgan ychwaith, ond fe wnaethon nhw gadarnhau eu bod wedi rhoi £1,606,405 o arian cyhoeddus i National Theatre Wales ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol.
Mwy am hyn yn rhifyn yr wythnos o gylchgrawn Golwg