Bu rhai o drigolion Aberystwyth yn cyd-sefyll â phrotestwyr Catalwnia mewn digwyddiad ynghanol tref Aberystwyth ddoe (dydd Iau, Hydref 17).
Trefnwyd y digwyddiad wrth i’r anrhefn ar strydoedd dinasoedd a threfi Catalwnia barhau yn dilyn carchariad naw o gyn-arweinwyr y rhanbarth.
Mae’r naw wedi cael eu carcharu gan y goruchaf lys yn Sbaen am gyfnodau sy’n amrywio rhwng naw a 13 mlynedd yn dilyn eu rhan yn yr ymgyrch i sicrhau annibyniaeth i Gatalwnia yn 2017.
Mae digwyddiadau wedi cael eu cynnal ledled Ewrop yn ystod y dyddiau diwethaf er mwyn dangos cefnogaeth i’r protestwyr. Ym Mrwsel, roedd cyn-Arlywydd Catalwnia, Carles Puidgemont, yn un o’r siaradwyr mewn digwyddiad yno.
Aberystwyth
Ymysg y siaradwyr yn y digwyddiad yn Aberystwyth roedd Siôn Jobbins o fudiad Yes Cymru; Elin Jones, Aelod Cynulliad Ceredigion; Bethan Ruth, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith; a Mari Turner, Maer Tref Aberystwyth.
“Yr wythnos yma rydan ni wedi gweld pobol Catalwnia yn meddiannu Maes Awyr Barcelona, ac yn cynnal cyfarfodydd ar draws y wlad – a phobol o bob oed ar eu taith tua rhyddid,” meddai Bethan Siân, un o drefnwyr y digwyddiad.
“Dyma i chi esiampl o gymunedau sydd ddim yn aros am rywun arall i roi yr hawl iddyn nhw i fod yn annibynnol. Maen nhw’n cadw’n weithgar a thrwy hynny yn datgan eu hannibyniaeth eu hun ym mhopeth maen nhw’n ei ddweud.
“Mae symudiad o anufudd-dod sifil o‘r fath yn haeddu ein cefnogaeth ni, er eu mwyn nhw ac er ein mwyn ninnau hefyd.”
Dywedodd Mari Turner, Maer Tref Aberystwyth, yn ei haraith gerbron y dyrfa: “Safwn heno gyda phobol Catalwnia, ei gwleidyddion a’i phleidleiswyr, gan addunedu hefyd i warchod democratiaeth ein gwlad ni hyd eithaf ein gallu.”