Mae’r gwinidog iechyd Vaughan Gething am weld llai o bobol or-dew yng Nghymru.
Bydd y cynllun yn ceisio cefnogi pobol i allu gwneud dewisiadau iachus drwy newid y ffordd maen nhw’n siopa bwyd a’r ffordd y maen nhw’n defnyddio mannau awyr agored i wneud ymarfer corff.
Bwriad Vaughan Gething yw hyrwyddo dewisiadau iachus mewn ysgolion, prifysgolion, mannau gwaith ac ardaloedd cymunedol.
Mae hefyd am weld pobol yn cael cyngor, gwybodaeth a chefnogaeth a’r cyfle i siarad am eu hiechyd gydag arbenigwyr.
“Fy uchelgais yw i Gymru ddod yn un o’r gwledydd cyntaf i weld gostyngiad mewn gordewdra,” meddai Vaughan Gething. “Caiff hyn effaith pellgyrhaeddol ar ein cenhedlaeth ni a’r genhedlaeth nesaf.”