Mae’r heddlu sy’n chwilio am Brooke Morris o ardal Trelewis wedi dod o hyd i gorff menyw.

Dyw’r corff ddim wedi cael ei adnabod yn ffurfiol eto, ond mae teulu’r chwaraewraig rygbi wedi cael gwybod.

Does neb wedi gweld y ddynes 22 oed o Ferthyr ers oriau mån bore Sadwrn (Hydref 12) ar ôl iddi fod ar noson allan.