Mae hyfforddwr cicio tîm rygbi Cymru yn dweud ei bod hi’n anodd cael Dan Biggar i lacio ei drefn ymarfer, er ei fod wedi dioddef anafiadau.

Fe gafodd Dan Biggar ei orfodi oddi ar y cae yn erbyn Ffiji ac Awstralia oherwydd anafiadau i’w ben.

Ac mae disgwyl y bydd yn cael ei glirio i chwarae yn erbyn Ffrainc ddydd Sul (Hydref 20).

“Mae arafu Dan i lawr yn anodd iawn,” meddai Neil Jenkins.

“Mae o wedi gwneud popeth sy’n ofynnol ohono ac mae o’n barod i fynd. Mae e ar bigau’r drain eisiau chwarae.”