Mae’r Aelod Cynulliad Llafur, Huw Irranca Davies, yn galw ar ei lywodraeth ei hun ym Mae Caerdydd i droi Cymru yn arweinydd rhyngwladol wrth daclo plastig un defnydd.
Dywed fod rhaid i Lywodraeth Cymru fod yr un mor flaenllaw ag yr oedd hi wrth gyflwyno pris ar fagiau plastig, i wneud yn siwr fod llai o blastig yn cael ei gynhyrchu a’i ddefnyddio yr ochr yma i Glawdd Offa.
Mae’r defnydd o fagiau plastig bellach wedi gostwng 70% ers cyflwyno’r gost.
Mae gan y ddadl gefnogaeth drawsbleidiol gref ymysg Aelodau Cynulliad.
“Rwy’n galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda ni i sefydlu cynllun clir i atal plastig,” meddai Huw Irranca Davies, “gyda thargedau a cherrig milltir i’w cyrraedd a defnyddio’r holl fesurau angenrheidiol gan gynnwys eith pwerau treth a levy i newid ymddygiad cwsmeriaid.”