Mae Plaid Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu i gau’r bwlch sy’n cantiatau i berchnogion ail gartref osgoi talu treth.
Ar hyn o bryd mae hi’n bosib i berchnogion ail dai gofretru eu tai fel busnes bach er mwyn osgoi talu treth gyngor a derbyn rhyddhad o gyfradd busnes.
Mae hyn yn ‘sgandal’ yn ôl Aelod Cynulliad Plaid Cymru Arfon, Sian Gwenllian.
“Mae perchnogaeth ail gartref wrth wraidd twf mewn anghydraddoldeb cyfoeth. Mae ymchwil yn dangos bod naw o bob deg perchennog eiddo ychwanegol yn hanner uchaf y dosbarthiad cyfoeth,” meddai.
“Ond yng Nghymru, mae perchnogion ail gartref wedi dod o hyd i ffordd i arbed arian.
“Mae cyfanswm o dros £1.7m y flwyddyn yn cael ei golli yng Ngwynedd yn unig – yn ogystal â phremiwm treth y cyngor, a fyddai’n dod â miliynau ychwanegol. Arian a allai fod yn gyfraniad pwysig tuag at adeiladu tai mwy priodol i bobol leol yng Ngwynedd.