Mae cwmni prosesu caws yng Ngwynedd a aeth i ddwylo’r gweinyddwyr ychydig fisoedd yn ôl, wedi cael ei werthu … ac mae’r perchnogion newydd yn gobeithio ailgychwyn y gwaith “cyn gynted â phosib”.

Ym mis Mehefin, fe gollodd bron i 90 o weithwyr eu swyddi pan gafodd GRH Food yn ardal Minffordd, rhwng Penrhyndeudraeth a Phorthmadog, ei drosglwyddo i ofal cwmni KPMG.

Ond erbyn hyn, mae’r gweinyddwyr wedi cadarnhau gwerthiant GRH Food a’i holl asedau i gwmni o Swydd Gaerloyw, sef Futura Food UK.

Mae’r cwmni hwnnw yn un o’r cyflenwyr caws cyfandirol mwyaf yng ngwledydd Prydain, ac yn arbenigo mewn caws o Wlad Groeg, yr Eidal a Sbaen ymhlith gwledydd eraill.

Gweithio’n galed 

“Rydym yn gweithio’n galed er mwyn ailagor y safle [ym Minffordd] ac yn edrych ymlaen at ddod â swyddi a buddsoddiad yn ôl i’r ardal,” meddai llefarydd ar ran Futura Fook UK.

Daw’r cyhoeddiad ar yr un diwrnod y trosglwyddwyd hufenfa yn ardal Wrecsam – Tomlinson’s Dairies – i ddwylo’r gweinyddwyr, gan adael dros 300 o staff heb waith.