Mae ymgyrchwyr iaith yn galw ar gynghorwyr Ynys Môn a Gwynedd i roi’r gorau i gynllun i adeliadu miloedd o dai ar gyfer gweithwyr i Wylfa-B – a hynny am fod y prosiect niwclear wedi’i ganslo.
Y gred ydi fod Cabinet Cyngor Sir Gwynedd yn cael ei gynghori yn ei gyfarfod heddiw (dydd Mawrth, Hydref 15) i gadw at yr un Cynllun Datblygu Lleol ar y cyd rhwng y ddwy sir. Bydd yr un adroddiad yn cael ei drafod gan gabinet Ynys Môn yr wythnos nesaf.
“Byddai’n esgleus, byrbwyll ac annoeth dros ben i fwrw ymlaen gyda’r un Cynllun Datblygu er bod y prif brosiect sy’n hollol ganolog i’w cynlluniau wedi ei chanslo,” meddai Robat Idris o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg.
“Mi fedran nhw ddadlau mai dim ond oedi sydd wedi digwydd i Wylfa B, ond mae’n amlwg bod angen addasu cynlluniau. Byddai’n wirion i fwrw ymlaen fel nad oes dim byd wedi newid.
“Mae’n amlwg bod hyn yn newid anferthol i’r cyd-destun, ond eto, mae swyddogion eisiau anwybyddu fe. Mae miloedd a miloedd o dai yn y Cynllun Datblygu ar gyfer gweithwyr i brosiect sydd wedi ei chanslo.
“Mae swyddogion cynghorau Gwynedd a Môn yn rhoi eu pennau yn y tywod. Gobeithio na fydd cynghorwyr yn ymddwyn fel cŵn bach y swyddogion unwaith eto: mae gwir angen iddyn nhw wynebu realiti’r sefyllfa.”
Yr adroddiad
Mae’r Adroddiad Monitro Blynyddol i weld yn anwybyddu penderfyniad cwmni Hitachi o Japan (perchnogion cwmni Horizon Nuclear Power Limited) i atal datblygiad Wylfa B ym mis Ionawr 2019, gan ddyfynnu’r ffaith fod y broses gynllunio yn dal i fynd rhagddi.
Mae’n nodi fod Hitachi yn “bwriadu oedi gyda’r bwriad o ddatblygu’r Orsaf Niwclear Newydd” ac “Wrth asesu perfformiad y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd, yn ogystal ag ystyried y dangosyddion, mae rhaid i’r Adroddiad Monitro Blynyddol ystyried unrhyw newidiadau cyd-destunol cenedlaethol, rhanbarthol a lleol sydd wedi digwydd yn y flwyddyn flaenorol.”
Ond eto, mae swyddogion yn argymell peidio â newid y cynllun yn sgil penderfyniad Hitachi i dynnu allan o Wylfa B gan ddweud “nid oes tystiolaeth sy’n dangos bod angen adolygiad cynnar o’r Cynllun”.