Mae’r penderfyniad i garcharu rhai o gyn-arweinwyr Catalwnia wedi ennyn ymateb ffyrnig o fewn y rhanbarth ei hun ac ar y llwyfan rhyngwladol.

Fe gafodd 12 gwleidydd, gan gynnwys y cyn-Ddirprwy Arlywydd, Oriol Junqueras, eu dedfrydu gan y goruchaf lys yn Sbaen ddoe (dydd Llun, Hydref 14) am eu rhan yn ceisio sicrhau annibyniaeth i Gatalwnia yn 2017.

Cafodd naw o’r 12 eu hanfon i’r carchar am gyfnodau sy’n amrywio rhwng naw a 13 mlynedd.

Ers cyhoeddi’r dedfrydau, mae canol dinas Barcelona wedi bod yn ferw gwyllt, wrth i brotestwyr a’r heddlu wrthdaro’n ffyrnig yn erbyn ei gilydd.

Bu tyrfa helaeth yn ceisio meddiannu maes awyr y ddinas neithiwr hefyd, gyda’r heddlu’n cadw trefn trwy ddefnyddio bwledi rwber a phastynau.

Yn ôl gwasanaethau brys Catalwnia, derbyniodd 75 o bobol driniaeth feddygol yn dilyn y gwrthdystio yn y maes awyr. Mae’r corff sy’n gyfrifol am feysydd awyr Sbaen, AENA, wedi dweud bod o leiaf 108 o hediadau wedi gorfod cael eu canslo.

Yr ymateb o Gymru

Mae gwleidyddion o Gymru ymhlith y rhai ar y llwyfan rhyngwladol sydd wedi mynegi eu hanfodlonrwydd â phenderfyniad goruchaf lys Sbaen.

Mae Llywydd y Cynulliad, Elin Jones, yn dweud ei fod yn “anghyfiawnder llwyr”, ac mae’n galw am wahardd Sbaen o’r Undeb Ewropeaidd.

Yn ôl cyn-Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, mae’r dedfrydau yn cynnwys “adleisiau” o’r modd y gweithredodd Llywodraeth Prydain yn erbyn Gwrthryfel y Pasg yn Iwerddon yn 1916.

Mae disgwyl i wylnos gael ei chynnal y tu allan i’r Senedd ym Mae Caerdydd heno (nos Fawrth, Hydref 15) er mwyn dangos cefnogaeth i Gatalwnia.