Mae gweithiwr cymdeithasol o Sir y Fflint wedi cael ei thynnu oddi ar y Gofrestr o Weithwyr Gofal Cymdeithasol am fethu ag adrodd am ymosodiad.

Cafodd Louise Medencia Faulkner, cyn-weithiwr cymorth i elusen MIND yn y gogledd-ddwyrain, ei chyhuddo o dorri polisi gwaith pan aeth hi i faes parcio “anghysbell” ym mis Mehefin 2016 er mwyn cwrdd â chleient oedd yn bygwth niweidio ei hun.

Clywodd gwrandawiad i’r achos yng Nghaer fod cydymaith iddi wedi cyrraedd y maes parcio yn ystod y cyfarfod ac ymosod ar y cleient.

Yn sgil hynny, ddywedodd Louise Medencia Faulkner ddim byd am y digwyddiad wrth ei chyflogwr.

Mae hi bellach wedi cael ei thynnu oddi ar y Gofrestr o Weithwyr Gofal Cymdeithasol ar ôl iddi dorri polisi gweithio unigol a methu ag adrodd ymosodiad, meddai Gofal Cymdeithasol Cymru.

“Peri risg i unigolion”

Yn ôl pwyllgor o’r corff iechyd, mae Louise Medencia Faulkner yn “peri risg i unigolion sy’n defnyddio gwasanaethau oherwydd nad yw hi’n llawn sylweddoli pam bod ei gweithredoedd yn amhriodol ac felly gallai ddilyn yr un trywydd yn y dyfodol.

“Mae gweithredoedd Ms Medencia Faulkner wedi achosi niwed difrifol ac arwain at guddio achos o gamymddwyn,” medden nhw wedyn.

“Mae wedi dangos yn barhaus bod ganddi ddiffyg dealltwriaeth o’r goblygiadau difrifol a gododd wedi iddi drefnu i gyfarfod yn y maes parcio a’r ffaith iddi fethu ag adrodd yr ymosodiad.

“Rydyn ni’n fodlon bod y ffaith iddi fethu ag adrodd yr ymosodiad wedi dangos diffyg ystyriaeth ar ei rhan hi i’w rhwymedigaethau proffesiynol.”