Mae Heddlu De Cymru yn dal i chwilio am ferch yn ei hugeiniau o Ferthyr Tudful sydd wedi bod ar goll ers dechrau’r penwythnos.

Dyw Brooke Morris, 22, ddim wedi cael ei gweld ers yr oriau mân fore Sadwrn (Hydref 12), pan gafodd ei chludo i’w chartref yn Nheras Bontnewydd, Trelewis, gan gydnabod iddi ar ôl noswaith allan ym Merthyr Tudful.

Mae swyddogion yn credu na wnaeth Brooke Morris gael mynediad i’w thŷ, ond dydyn nhw ddim yn gwybod beth ddigwyddodd wedyn.

Mae swyddogion arbenigol yn dal i chwilio Trelewis a’r ardaloedd cyfagos, gan gynnwys coedlannau a dyfroedd lleol.

Mae’r heddlu yn apelio ar unrhyw un a allai fod â gwybodaeth ynglŷn â Brooke Morris i gysylltu â nhw ar unwaith.