Mae dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad yn Sir y Fflint bore ma (Dydd Llun, Hydref 14).
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd – Vauxhall Corsa a fan – ar yr A548 yn Bagillt toc cyn 8yb.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw gan gynnwys Ambiwlans Awyr ond bu farw gyrrwr y Vauxhall Corsa yn y fan a’r lle.
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am dystion i’r digwyddiad. Dylai unrhyw un sydd a gwybodaeth ffonio’r heddlu ar 101 gan nodi’r cyfeirnod X149730.
Mae disgwyl i’r ffordd ail-agor yn fuan.