Mae’r heddlu’n rhybuddio eu bod yn cadw gwyliadwriaeth ar bobol ifanc sy’n ymddwyn yn wrth-gymdeithasol mewn pentref ym Môn.
Yn dilyn pryder gan y cyhoedd, mae plismyn ar ddyletswydd drwy’r penwythnos yn Llanfairpwll a phentrefi cyfagos.
Daw hyn yn sgil adroddiadau fod grwpiau o hyd at 100 yn ymgasglu gyda’i gilydd ar nos Wener ac ar y penwythnos yn y pentref – gyda phobol ifanc tua 14-17 oed yn aros allan mor hwyr â 3 o’r gloch y bore.
Mae’r cae pêl-droed wedi cael ei ddifrodi ac mae tystiolaeth o yfed o dan oed a chymryd cyffuriau anghyfreithlon yno hefyd.
Dywed yr heddlu eu bod yn ceisio rhesymu gyda’r bobl ifanc yn y lle cyntaf, ond bod mesurau llymach wedi gorfod cael eu defnyddio hefyd.