Mae Heddlu Dyfed-Powys yn dweud eu bod nhw’n ymwybodol fod criwiau o bobol ifanc yn gwneud trefniadau i ymladd mewn dwy o drefi Powys dros y penwythnos nesaf.
Mae’r criwiau wedi bod yn cynllunio i gyfarfod a chwffio yn y Trallwng a’r Drenewydd.
“Rydyn ni’n ymwybodol fod grwpiau o bobol ifanc yn meddwl cyfarfod ac ymladd,” meddai llefarydd ar ran yr heddlu. .
“Rydyn ni mewn cyswllt â’r ysgol ac yn apelio ar i rieni ein cefnogi er mwyn rhoi stop ar yr ymddygiad yma.
“Mae o’n achos pryder fod y math yma o beth yn digwydd ond rydyn ni am i’r bobol ifanc dan sylw fod yn ymwybodol ein bod ni’n gwybod am eu cynlluniau, ac na fyddwn ni’n goddef y math yma o beth.”