Mae ymgyrchwyr iaith yn rhybuddio y gallai dynodi hen ardal y chwareli yn Safle Treftadaeth y Byd fod yn niweidiol i gymunedau Cymraeg.
Y llynedd, daeth y cyhoeddiad mai’r ardal yng Ngwynedd fydd yn cael ei henwebu nesaf gan Lywodraeth Prydain er mwyn derbyn statws arbennig y corff, UNESCO.
Y gobaith yw y byddai statws o’r fath yn arwain at fwy o fuddsoddiad a thwristiaeth yng ngogledd-orllewin Cymru.
Ond pryder y grŵp, Cylch yr Iaith, yw y gallai creu “gor-dwristiaeth” a fydd, yn ei thro, yn “erydu” cymunedau Cymraeg.
Peryglon gor-dwristiaeth
Yn ei ymchwil, mae Howard Huws yn cyfeirio at astudiaethau blaenorol ar feysydd iaith, tai a swyddi yn y gogledd-orllewin, sy’n dangos bod twristiaeth – a gormodedd ohono – yn cael effaith negyddol ar gymunedau Cymraeg.
Ychwanega fod y cymunedau hyn yn wynebu yr un faint o beryg o du gor-dwristiaeth ag ardal y Llynnoedd a Chernyw yn Lloegr, Valencia, arfordir Croatia a Chyprus.
Ond yn wahanol i’r rheiny, meddai Howard Huws, “gallai’r ieithoedd a’r diwylliannau Saesneg, Sbaenaidd, Croataidd a Groegaidd oll wrthsefyll tanseilio cymunedau’r ardaloedd uchod gan or-dwristiaeth, er cymaint y golled.
“Ond ni all y Gymraeg wrthsefyll tanseilio cymunedau Gorllewin Cymru a’r Cymoedd, sydd wrth gwrs yn cynnwys cymunedau ôl-ddiwydiannol Gwynedd.”
‘Ystyriwch y cymunedau Cymraeg’
Mae Howard Huws o’r farn mai’r ffordd orau i “normaleiddio” twristiaeth yng Nghymru yw trwy sicrhau bod ffyniant y cymunedau Cymraeg yn cael ei ystyried wrth hyrwyddo’r fasnach.
Ond bai’r llunwyr polisi a’r cyrff hyrwyddo ar hyn o bryd yw nad ydyn nhw “mor barod i gydnabod bod cysylltiad rhwng twristiaeth a shifft ieithyddol,” meddai.
“Oni cheir sicrwydd y gosodir amodau ffyniant y Gymraeg yn gymunedol, yng nghyd-destun ceisiadau cynllunio a chyfrannu arian cyhoeddus ar ffurf cymhorthdal a nawdd, yna ni fyddai’r cynllun Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru hwn o fudd i gymunedau Gwynedd,” meddai.
“Y mae Cylch yr Iaith yn gofyn i’r Bartneriaeth sydd y tu cefn i’r cynllun alw ar Lywodraeth Cymru a Chyngor Gwynedd i sefydlu a gweithredu cynllun rhagbaratoawl a fydd yn gosod ffyniant y Gymraeg yn Gymunedol amcan hanfodol ym meysydd cyflogaeth, tai a chynllunio, a thwristiaeth.
“Byddai angen sefydlu polisi yn nodi y byddai’n rhaid i unrhyw ddatblygiad a ddeilliai’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol o ddynodi’r ardaloedd dan sylw yn Safle Treftadaeth Byd fod yn Gymraeg a Chymreig – yn adlewyrchu’n llawn hunaniaeth ieithyddol a diwylliannol y cymunedau – ac o dan berchnogaeth a rheolaeth leol gyda lles ieithyddol, diwylliannol ac economaidd y cymunedau’n hanfod.”