Daeth y cyhoeddiad mai David Henshaw sydd wedi cael ei benodi’n gadeirydd Cyfoeth Naturiol Cymru.

Mae’r gŵr o Lerpwl wedi bod yn gadeirydd dros dro ar y corff cyhoeddus oddi ar fis Tachwedd y llynedd, ac fe fydd bellach yn aros yn barhaol yn swydd tan ddiwedd mis Hydref 2023.

Mae disgwyl iddo dderbyn cyflog blynyddol o £46,800 am ei waith yn ystod o leiaf 72 diwrnod y flwyddyn.

“Mae gan Syr David gefndir o lwyddiant blaenorol o ran darparu arweinyddiaeth gref a thrawsnewid ar lefel Bwrdd,” meddai Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths.

“Bydd ei benodiad yn ei gwneud hi’n bosib i’r sefydliad barhau i adeiladu ar y cynnydd da a wnaed ers ei benodi’n Gadeirydd dros dro.”

David Henshaw

Cafodd ei eni a’i fagu yn Lerpwl, ond mae wedi yw yng ngogledd Cymru ers sawl blwyddyn gyda’i wraig. Cafodd ei urddo’n farchog yn 2004.

Mae’n gyn-brif weithredwr Cyngor Bwrdeistref Metropolitan Knowsley a Dinas Lerpwl, ac arweiniodd adolygiad mawr o Gymorth i Blant a’r Asiantaeth Cymorth Plant.

Yn ddiweddarach, bu’n uwch-swyddog o fewn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, gan gynnwys Awdurdod Iechyd Strategol y Gogledd-orllewin ac Ysbyty Plant Alder Hay.

Mae hefyd wedi bod yn gadeirydd dros dro ar nifer o ymddiriedolaethau ysbyty a oedd wedi profi problemau.

Bu hefyd yn Gadeirydd Bwrdd Cynghori Prif Weinidog Cymru ar ddarparu gwasanaethau cyhoeddus.