Pencadlys S4C
Mae Cadeirydd S4C yn dweud bod y trafod yn parhau i geisio sicrhau annibyniaeth y sianel.
Fe fydd Huw Jones yn dweud wrth gynhadledd ar ddarlledu heddiw “nad yw hi ar ben” o ran sicrhau llais annibynnol o dan adain y BBC.
Ond mae ei sylwadau hefyd yn awgrymu bod brwydr galed ar droed, fisoedd ers i’r trafodaethau ddechrau rhwng y sianel, y Gorfforaeth a Llywodraeth Llundain.
Y bwriad yw fod rhan helaeth o gyllid y sianel yn dod o arian trwydded y BBC o 2013 ymlaen, gyda thrafodaeth am yr union swm ar ôl 2015.
Fe fydd hefyd yn rhybuddio bod dryswch am union drefniadau ariannol S4C ar ôl y flwyddyn 2015 pan fydd yn cystadlu am ran o arian trwydded y BBC.
Y frawddeg allweddol
O’r dyfyniadau sydd wedi eu gollwng ymlaen llaw, dyma’r frawddeg allweddol am berthynas S4C a’r BBC a’r trafodaethau sy’n digwydd ar hyn o bryd:
“Dwi’n credu ei bod hi’n bosib, trwy barhau i drafod, i ddod i gytundeb a fydd ar y naill law yn cydnabod y ffaith y bydd mwyafrif cyllid S4C o 2013 ymlaen yn dod o ffi’r drwydded deledu ac, ar y llaw arall, fod yna ymrwymiad i S4C barhau i fod ag annibyniaeth weithredol a golygyddol, tra’n creu partneriaeth ymarferol newydd gyda’r BBC.”
Mae’n hysbys fod y BBC eisiau i’r sianel fod yn atebol am ei gwario ac mae Golwg 360 yn deall hefyd ei bod eisiau llais cry’ – mwyafrif hyd yn oed – ar Awdurdod y sianel.
‘Partner effeithiol’
Fe fydd Huw Jones hefyd yn dweud wrth gynhadledd y Sefydliad Materion Cymreig am ei obeithion yntau am y berthynas gyda’r BBC ar ôl 2015 – erbyn hynny fe fydd y sianel wedi colli 36% o’i gwario o gymharu â’r drefn flaenorol.
“Fe fydd yn bartner effeithiol i’r BBC – gan reoli ei hun ond gan fod yn atebol i Ymddiriedolaeth y BBC am ei ddefnydd o arian y drwydded ac i’r Llywodraeth am yr arian cyhoeddus arall,” meddai.