Ceris James, enillydd Tlws yr Ieuenctid
Enillydd y gadair yn Eisteddfod Gadeiriol Crymych eleni oedd Terwyn Tomos, Llandudoch. Ysgrifennodd gerdd ar y testun ‘Yr Afon’ i’w ffrind, y diweddar Reggie Smart, a derbyn canmoliaeth mawr gan y beirniad llen, y Prifardd Ceri Wyn Jones. Mewn cystadleuaeth, a oedd yn nhyb y beirniad o safon uchel iawn, enillodd Ceris James o Ysgol Dyffryn Teifi Dlws yr Ieuenctid.
Plesiwyd y beirniad cerdd, J. Eirian Jones, a’r beirniad llefaru, Elin Williams gan safon y cystadleuwyr, ac yn arbennig felly gan y rhai dan 12oed. Yn y gystadleuaeth i blant lleol dan 12 oed y cyntaf ar ganu oedd Tomos Morgan, Boncath a’r cyntaf ar lefaru oedd Joseff Mathias, Hermon. Yn y cystadlu agored dan 12 y cyntaf ar ganu oedd Ffion Gwaun o Abergwaun a’r cyntaf ar lefaru oedd Rhidian Thomas, Maenclochog. Enillwyd yr alaw werin gan Ffion Gwaun a’r unawd offerynnol gan Esyllt Thomas a’r unawd dan 15oed.
Terwyn Tomos, enillydd y gadair.
Enillwyd y Cwpan Her Parhaus am unawd dan 18oed gan Mared Harries, Rosebush a hi hefyd enillodd yr unawd alaw werin dan 18 a’r llefaru. Enillydd y cwpan am y cystadleuydd llwyfan mwyaf addawol oedd Ffion Gwaun o Abergwaun, tra roedd Iwan Davies, Llandudoch yn fuddugol ar yr unawd allan o Sioe Gerdd, yr Her Unawd a Chanu Emyn.
Cafwyd perfformiadau graenus gan Ysgol Sul Blaenffos, ac Ysgol Gynradd y Frenni yn ystod y dydd. Enillwyd y prif gystadleuaeth gorawl gan Gor Crymych a’r Cylch.
Y Cyfeilydd drwy gydol yr Eisteddfod oedd Meirion Wynn Jones, Aberhonddu ac mae’r Pwyllgor yn ddyledus iawn iddo am ei waith proffesiynol ac i bawb arall a gyfrannodd at lwyddiant yr Eisteddfod.