Cyngor Tref Aberystwyth yw’r diweddaraf i ddatgan cefnogaeth i annibyniaeth yn dilyn cyfarfod neithiwr (nos Lun, Medi 30).

Mae’r dref brifysgol yn ymuno â’r bron i 30 o gynghorau tref a chymuned – ac un cyngor sir – ledled Cymru sydd wedi cymryd yr un cam yn ystod y misoedd diwethaf.

Y cyngor tref cyntaf i gefnogi annibyniaeth oedd Machynlleth ar Fai 28, gyda threfi Caernarfon a Chaerffili yn ei ddilyn..

Yr wythnos ddiwethaf, fe benderfynodd Cyngor Tref Blaenafon yng Ngwent – sydd â naw cynghorydd Llafur, dau annibynnol ac un Plaid Cymru – gefnogi annibyniaeth hefyd.

Cyngor Cymuned Llandysiliogogo oedd y cyntaf yng Ngheredigion i ddatgan o blaid annibyniaeth, a hynny ym mis Gorffennaf.

Yn fwy diweddar, mae cynghorau cymuned yn ardaloedd Crymych a Chlydau ymhlith y cyntaf yn sir Benfro i gymeradwyo cynnig o’r fath.