Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am wybodaeth yn dilyn gwrthdrawiad traffig difrifol ger Rhuthun neithiwr (nos Lun, Medi 30).

Yn ôl y llu, cafodd swyddogion eu galw ar ôl derbyn adroddiadau am wrthdrawiad rhwng dau gar – Toyota a Chevrolet – ar ffordd y B5126 ger Llaneurgain toc cyn 6yh.

Cafodd un o’r gyrwyr eu cludo i’r ysbyty yn Stoke gydag anafiadau difrifol.

Dywed yr heddlu y dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ynglŷn â’r digwyddiad gysylltu â nhw ar unwaith.