Sam Warburton
Mae cwmni betio wedi cyhoeddi y byddan nhw’n ad-dalu pawb a roddodd eu harian ar Gymru i ennill yn erbyn y Ffrancwyr fore Sadwrn.

Bydd  cwmni Paddy Power yn ad-dalu dros £200,000 i bobol yn sgil penderfyniad dadleuol y dyfarnwr i roi carden coch i gapten Cymru, Sam Warburton, gan ddweud fod y penderfyniad wedi tanseilio pob siawns teg oedd gan Gymru a’r cefnogwyr.

“Gwnaeth y penderfyniad dadleuol yna sarnu’r gêm,” meddai llefarydd ar ran y cwmni wrth Golwg 360.

“Doedd dim gobaith gan y bobol a roddodd eu harian tu ôl i’r tîm ar ôl y penderfyniad amheus iawn i anfon Sam Warburton o’r cae,” meddai, “er gwaetha’r ffaith mai Cymru oedd y tîm gorau.”

Yn ôl pennaeth Paddy Power, fe chwaraeodd Cymru “fel arwyr”, ond bod carden coch Sam Warburton “wedi lladd y gêm, a chyfle’r Cymry”.

“Rydyn ni’n gobeithio y bydd cael eu harian yn ôl yn mynd rhywfaint bach o’r ffordd i leddfu tristwch Cymru dros anghyfiawnder ddydd Sadwrn,” meddai.

Warburton – ‘canolbwyntio ar gêm ddydd Gwener’

Yn y cyfamser, mae Sam Warburton wedi dweud wrth ei gyd-chwaraewyr i ganolbwyntio ar sicrhau’r trydydd safle ddydd Gwener, wrth i Gymru fynd ben-ben ag Awstralia.

Bydd Sam Warbutron yn colli’r gêm ddydd Gwener oherwydd gwaharddiad o dair wythnos ar ôl y garden goch ddydd Sadwrn, ac mae disgwyl i Adam Jones golli’r gêm hefyd ar ôl iddo dderbyn anaf yn gynnar yn y gêm . Ond y gobaith yw y bydd Rhys Priestland nawr yn holliach erbyn y gic gyntaf yn erbyn Awstralia am 8.30am fore Gwener.