Fe ddylai “canran deg” o £600m ychwanegol a fydd yn dod i Gymru gan Lywodraeth Prydain gael ei rhoi i’r cynghorau sir, yn ôl arweinydd Cyngor Gwynedd, Dyfrig Siencyn.
Fe gyhoeddodd y Canghellor, Sajid Javid, yn ei Adolygiad Gwariant ar ddechrau’r mis, y bydd Llywodraeth Cymru yn derbyn y swm ychwanegol yn ystod y cyfnod 2020/21.
Daeth hynny wedi iddo ddweud bod ei lywodraeth yn “troi’r ddalen ar gyni ariannol, ac yn dechrau ar ddegawd newydd o adnewyddu.”
Yn ôl Dyfrig Siencyn, sydd hefyd yn arweinydd Plaid Cymru Gwynedd, fe ddylai Llywodraeth Cymru adlewyrchu datganiad y Canghellor yn ei chyhoeddiad ariannol ar ddiwedd mis Hydref.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud ei bod hi’n gobeithio rhoi’r “setliad gorau posib” i gynghorau sir.
Toriadau “wedi cyrraedd yr asgwrn”
“Mae’r esgid eisoes yn gwasgu, wrth i adrannau’r cyngor droi pob carreg i chwilio am arbedion ariannol parhaus cyn cael ein gorfodi i dorri gwasanaethau,” meddai Dyfrig Siencyn.
“Rydym eisoes yn ymwybodol y bydd twll ariannol eto yn ein cyllideb o ganlyniad i danariannu’r Blaid Lafur wrth dalu chwyddiant i gyflogau a phensiynau athrawon a staff llywodraeth leol, a’r costau cynyddol sydd i’r gweithlu gofal cymdeithas oherwydd y galw.
“Bydd bwlch ariannol i grantiau gwasanaethau plant a gofal dementia ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod, er enghraifft, ac mae angen ariannu newidiadau deddfwriaethol ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.
Ychwanega: “Mae’r chwe arweinydd cyngor sir yma yn y gogledd wedi anfon neges glir i Weinidogion Llywodraeth Leol, Julie James, a Chyllid, Rebecca Evans, yn pwyso arnyn nhw i gadw eu haddewid y caiff llywodraeth leol flaenoriaeth ariannol yn y flwyddyn ariannol nesaf.”
Ymateb Llywodraeth Cymru
Yn ôl Llywodraeth Cymru, dyw’r swm ychwanegol y byddan nhw ei dderbyn y flwyddyn nesaf “ddim yn cyfiawnhau’r bron i ddegawd o lymder a’r toriadau blynyddol” y mae gwasanaethau cyhoeddus wedi gorfod eu hwynebu.
“Bydd y Cabinet yn ystyried sut orau i ddefnyddio’r adnoddau sydd ar gael, ac fe fydd Gweinidogion yn ceisio rhoi’r setliad gorau posib o dan yr amgylchiadau i lywodraeth leol pan gyhoeddir y Gyllideb ddrafft,” meddai llefarydd.
“Mae llywodraeth leol wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd o ganlyniad i’r polisi niweidiol o lymder gan Lywodraeth Prydain, ond rydym wedi sicrhau nad yw cynghorau wedi profi yr un lefel o doriadau â llywodraeth leol yn Lloegr.”