Bydd Dechrau Canu Dechrau Canmol yn mentro i’r Unol Daleithiau mewn rhifyn arbennig ym mis Hydref.

Mae’r rhaglen yn dilyn taith yr actor a’r canwr Ryland Teifi wrth iddo weld pa effaith barhaol mae Cymru wedi ei chael ar hunaniaeth a chrefydd ardaloedd yng Ngogledd America.

Bydd y rhaglen awr o hyd yn dechrau yng Nghymanfa Ganu Gogledd America a Chanada, yn Milwaukee, Wisconsin, dan arweiniad Dr Mari Morgan, sy’n hanu o ardal Llanelli.

Yn ail hanner y daith, bydd Ryland Teifi yn ymweld â hen gapel yn Birmingham, Alabama a gafodd ei fomio yn 1963 gan grŵp o eithafwyr gwyn; a bydd yr hanesydd, Dr Bill Jones, yn edrych ar lythyron y Cymry a ymfudodd i’r Unol Daleithiau ar ddechrau’r 19fed ganrif.

 “Profiad bythgofiadwy”

“Roedd sawl agoriad llygad i mi’n bersonol ar y daith,” meddai Ryland Teifi. “Mae yna gymaint o bocedi ar draws yr UDA sydd â chysylltiadau diddorol tu hwnt â Chymru – a chymunedau bach.

“Er enghraifft, mae yna le yn Wisconsin o’r enw Wales; rydych chi’n gyrru mewn i’r pentref ac yn gweld baneri Cymru ymhob man. Roedd yr oedfaon yn cael eu cynnal yn y Gymraeg hyd at 1920.

“Mae’n anhygoel i feddwl bod 300 o gapeli Cymraeg wedi cael eu sefydlu yn yr ardal.”

Bydd Dechrau Canu Dechrau Canmol: America yn cael ei darlledu ar S4C am wyth o’r gloch ar Hydref 6.