“Mae yna fudiad yn dod ynghyd sydd â gweledigaeth bositif ar gyfer Cymru – gweledigaeth bositif ar gyfer newid yng Nghymru.”
Dyna farn un cynghorydd Llafur ar Gyngor Tref Blaenafon, sydd newydd ddatgan cefnogaeth i’r syniad o annibyniaeth i Gymru.
Mae lle i gredu mai’r dref ddiwydiannol – sydd â naw cynghorydd Llafur, dau annibynnol ac un Plaid Cymru – yw’r un fwyaf dwyreiniol yng Nghymru i gefnogi annibyniaeth yn swyddogol.
Mae’n ymuno â’r degau o gynghorau tref a chymunedol – ac un cyngor sir – ledled y gorllewin a’r gogledd sydd eisoes wedi cymryd yr un cam yn ystod y misoedd diwethaf.
Gorymdaith Merthyr yn ysbrydoli
Yn ôl y Cynghorydd Gareth Davies – un o’r cynghorwyr a gyflwynodd y cynnig gerbron Cyngor Tref Blaenafon nos Fercher (Medi 25) – yr hyn a’i ysbrydolodd oedd yr orymdaith tros annibyniaeth ym Merthyr Tudful ar Fedi 7.
“Mae pobol bellach yn gweld nad yw’n rhywbeth niche, ac nid yn rhywbeth sy’n cael ei berchnogi gan Blaid Cymru yn unig,” meddai’r Cynghorydd Llafur wrth golwg360.
“Ac mae angen iddo ddatblygu – mae angen iddo dyfu ac aeddfedu – a gall hynny ddim ond digwydd os yw pawb yn rhan ohono.”
Ennill mwy o bobol i’r achos
Er mai dim ond trwy drwch blewyn y pleidleisiodd cynghorwyr Blaenafon o blaid cefnogi annibyniaeth – pump o blaid, pedwar yn erbyn a dau yn atal – mae Gareth Davies yn barod i geisio denu mwy o bobol i’r achos.
“O ran fy nghefndir, dw i’n Sosialydd, ac fe gefais fy magu yn darllen Gwyn Alf Williams, a ddywedodd fod y mudiad llafur modern wedi cael ei eni ym meysydd glo Sir Fynwy.
“Wel, dw i’n meddwl y gallwn fod yn rhan o’r mudiad annibyniaeth modern, neu o leiaf ei feithrin yma ym meysydd glo Sir Fynwy.”