ae dyn wedi marw ar safle gwaith dur cwmni Tata yn Port Talbot.
Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw toc wedi 2 o’r gloch bnawn heddiw (dydd Mercher, Medi 25) yn dilyn adroddiadau am ddamwain.
Yn ol datganiad gan y cwmni, mae teulu’r dyn wedi cael eu hysbysu, ac maen nhw’n cydweithio’n llawn gyda’r Gweithgor Iechyd a Diogelwch.
Mae Heddlu De Cymru hefyd wedi cadarnhau bod swyddogion ar y safle, ac mae’n disgrifio’r digwyddiad fel sydd ddim yn fygythiad i’r cyhoedd.
Yn ôl Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, fe gawson nhw eu galw toc cyn 2yp yn dilyn adroddiad bod angen gofal meddygol brys ar berson.
Mewn datganiad, dywed cwmni Tata Steel ei fod yn “ymchwilio’n llawn” i’r digwyddiad.