Fydd cynghorydd blaenllaw ddim yn wynebu pleidlais o ddiffyg hyder heddiw (dydd Mercher, Medi 25) wedi iddi newid ei swydd o fewn cabinet Cyngor Powys.

Roedd y Cynghorydd Myfanwy Alexander yn gyfrifol am bortffolio Addysg, ac roedd disgwyl i gynghorwyr drafod ei dyfodol y bore yma yn sgil adroddiad beirniadol am wasanaethau addysg y sir.

Roedd y cynnig yn nodi “nad oes gan y Cyngor hwn hyder” yn y cynghorydd Annibynnol i fynd i’r afael â’r “gwendidau” a gafodd eu nodi mewn adroddiad gan Estyn ym mis Gorffennaf.

Ond ar drothwy’r bleidlais, mae arweinydd y cyngor, y Cynghorydd Rosemarie Harris, wedi cyhoeddi bod Myfanwy Alexander bellach wedi ei symud i fod yn gyfrifol am bortffolio Gofal Cymdeithasol Oedolion, tra bo’r Cynghorydd Phyl Davies wedi cymryd y portffolio Addysg.

Bydd Myfanwy Alexander yn parhau’n gyfrifol am yr iaith Gymraeg, ychwanega’r arweinydd.

Ad-drefnu

Daw’r newidiadau yn dilyn ymddiswyddiad dau aelod o’r cabinet ddoe (dydd Mawrth, Medi 24), sef y Cynghorydd Matin Weale, yr aelod tros yr Economi a Chynllunio, a’r Cynghorydd Stephen Hayes, yr aelod tros Ofal Cymdeithasol Oedolion.

Mae’r cyfan yn rhan o fwriad yr arweinydd i drawsnewid y cabinet, sy’n cynnwys cynlluniau i gynyddu ei faint i ddeg aelod.

Cyn cyhoeddi’r ad-drefnu nos Fawrth, dywedodd Rosemarie Harris fod ymddiswyddiad y ddau aelod wedi “rhoi cyfle i mi adolygu cyfrifoldebau portffolios y cabinet”.

Dywedodd yn ddiweddarach: “Rwy’n gwneud y newidiadau hyn i fy nghabinet heddiw gan ei bod yn bwysig fod gennym aelodau cabinet profiadol yn y swyddi allweddol hyn er mwyn gallu parhau i drawsnewid y meysydd Addysg a Gofal Cymdeithasol.”

Mae disgwyl cyhoeddiadau pellach yn y man.