Mae adroddiad newydd yn dweud y dylai Cymru ddilyn arweiniad cenhedloedd eraill a datblygu ffyrdd credadwy o garcharu.

Ar ôl darganfod yn ddiweddar mai Cymru sydd â’r gyfradd garcharu gyfartalog uchaf yng ngorllewin Ewrop, mae academyddion o Ganolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd yn dweud bod eu dadansoddiad o chwe system farnwrol arall yn dangos i lunwyr polisi yng Nghymru sut y gallent o bosibl wyrdroi’r duedd hon.

Y mis diwethaf, cyhoeddodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder fod 10,000 o leoedd ychwanegol wedi’u creu mewn carchardai yng Nghymru a Lloegr.

“Cymru sydd â’r gyfradd garcharu uchaf yng ngorllewin Ewrop ar hyn o bryd, ac ymddengys nad oes fawr o obaith i hyn newid o dan y system gyfredol,” meddai Robert Jones o’r Ganolfan.

“Tanlinellwyd hyn fwyaf diweddar gan benderfyniad Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ehangu’r ystad carcharorion gyda 10,000 o leoedd ychwanegol.

“Mae ein gwaith ymchwil i sut mae gwledydd eraill wedi mynd i’r afael â’u cyfraddau carcharu uchel yn dangos bod ffyrdd dichonadwy eraill i garcharu cadwraethol. Mae’r adroddiad yn dangos y gallai tystiolaeth gan ymchwil genedlaethol fod yn allweddol i ddull gwahanol radical yn y dyfodol o drin cyfiawnder troseddol yng Nghymru.

Enghreiffitiau

Dadansoddodd ymchwilwyr gyfraddau carcharu ac ymagweddau at bolisi cosbi yng Nghaliffornia, Efrog Newydd, Tecsas, y Ffindir, Portiwgal a’r Iseldiroedd. Roedd pump o’r chwe system a astudiwyd wedi llwyddo i ostwng eu cyfraddau carcharu.

“Gellid ystyried nad yw enghreifftiau o ‘gymdeithasau carcharu uchel’ yn yr Unol Daleithiau yn berthnasol iawn i Gymru,” meddai Robert Jones wedyn.

“Ond mae’r awdurdodaethau hyn wedi lleihau nifer y bobol yn y ddalfa yn llwyddiannus ac yn dangos bod mentrau polisi penodol y mae Cymru, fel cymdeithas carcharu uchel, yn gallu dysgu ohonyn nhw.

“Yn Ewrop, mae llunwyr polisïau yn y Ffindir wedi symud yn llwyddiannus o gael un o’r cyfraddau carcharu uchaf yng ngorllewin Ewrop i un o’r lleiaf. Mae’r Iseldiroedd wedi gweld gostyngiad sylweddol yn  nifer y carcharorion yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

“Mae’r enghreifftiau hyn yn rhoi gwersi pwysig i ni ar gyfer sut y gallwn wella’r sefyllfa yng Nghymru.”