Mae bwrdd gweithredol Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi cymeradwyo cynnig i newid iaith cyfnod sylfaen pedair ysgol gynradd o fewn y sir.
Yn ôl y cynlluniau, bydd iaith cyfnod sylfaen Ysgol y Ddwylan yng Nghastellnewydd Emlyn, Ysgol Griffith Jones yn Sanclêr, Ysgol Llys Hywel yn Hendy-gwyn ac Ysgol Llangynnwr yn newid i’r Gymraeg yn unig – gyda dewis o addysg cyfrwng Saesneg yn cael ei gyflwyno yng nghyfnod allweddol 2.
Cafodd cynnig ar wahân i droi Ysgol Rhys Prichard yn Llanymddyfri yn ysgol cyfrwng Cymraeg ei gymeradwyo gan y bwrdd gweithredol hefyd.
Y cam nesaf fydd cyhoeddi hysbysiad statudol fel bod y newidiadau’n dod i rym y flwyddyn nesaf.
Sicrhau dwyieithrwydd
Mae’r cynigion yn rhan o Gynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg y cyngor, ac yn cyd-fynd ag amcanion Llywodraeth Cymru i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg i filiwn erbyn 2050.
Yn ystod yr ymgynghoriad, y prif bryder a fynegwyd gan rieni yw y gallai’r newid eu hamddifadu o ddewis iaith i’w plant, ac y gallai addysg Gymraeg yn unig effeithio ar sgiliau Saesneg y disgyblion.
Ond yn ôl y Cynghorydd Glynog Davies, sy’n gyfrifol am bortffolio Addysg ar y bwrdd gweithredol, y nod yw sicrhau fod pob disgybl o fewn y sir yn “gwbl ddwyieithog” erbyn diwedd cyfnod allweddol 2.
“Gosod esiampl”
Mae ymgyrchwyr iaith wedi croesawu penderfyniad y bwrdd gweithredol, gan ddweud bod Cyngor Sir Gaerfyrddin yn “gosod esiampl i siroedd eraill Cymru”.
“Mae Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi cymryd penderfyniad allweddol heddiw tuag at sicrhau na chaiff unrhyw blentyn yn y sir ei amddifadu o’r sgil addysgol hanfodol i fedru cyfathrebu a gweithio’n Gymraeg ac yn Saesneg,” meddai Sioned Elin o Gymdeithas yr Iaith.