Mae llawer o Gymry ymhlith y rheiny sydd wedi cael eu dal ynghanol trafferthion y cwmni Thomas Cook, gydag un yn dweud nad oes ganddo “ddim cliw” pryd y caiff ddychwelyd adref o’i wyliau.
Daeth y newyddion y bore yma (dydd Llun, Medi 23) fod y cwmni teithiau tramor wedi rhoi’r gorau i weithredu ar unwaith yn dilyn methiant i sicrhau ymdrech olaf i’w achub gan gredydwyr. Roedd gan y cwmni ddyledion o £1.7bn
Mae tua 150,000 o bobol o wledydd Prydain ar wyliau dramor ar hyn o bryd, ac mae’r Awdurdod Hedfan Sifil wedi dweud y byddan nhw’n gwneud trefniadau i geisio eu cludo adref o fewn y pythefnos nesaf – rhwng heddiw a Hydref 6.
Un o gwsmeriaid Thomas Cook sydd ar hyn o bryd ar wyliau yng Ngwlad Groeg yw’r artist o Geredigion, Wynne Melville Jones.
Mae ef a’i deulu wedi bod yn ymweld â phentref glan môr Finikounda yn rhanbarth Messinia droeon dros y blynyddoedd, gan ddefnyddio pecynnau teithio Thomas Cook gan amlaf.
Mae’n dweud na dderbyniodd unrhyw rybudd bod y cwmni’n dod i ben, cyn ychwanegu bod yr holl drafferthion wedi taflu “ansicrwydd” dros ei bythefnos o wyliau.
“Rydyn ni’n styc”
“Pan godais i y bore yma, y peth cyntaf a welais i oedd bod Thomas Cook wedi mynd i’r wal,” meddai Wynne Melville Jones wrth golwg360.
“Fe es i’n syth wedyn i weld a oedd yna rywbeth ar eu gwefan nhw, a doedd dim, wrth gwrs, achos ei bod hi wedi cau lawr.
“Fe es i mewn wedyn at y Civil Aviation Authority yma, a dw i wedi cofrestru gyda nhw i ddweud ein bod ni mas yma.
“Rydyn ni i fod hedfan yn ôl o Kalamata i Birmingham ddydd Sul nesaf [Medi 29], ond does yna ddim posib siarad â neb, a does dim modd anfon e-bost at neb…
“Does ganddon ni ddim cliw,” meddai wedyn. “Rydyn ni’n styc yn fan hyn nawr hyd nes bod rhywun o’r CAA yn cysylltu â ni i ddweud pryd y gallwn ni fynd.”
Thomas Cook
Cafodd Thomas Cook ei sefydlu 178 mlynedd yn ôl. Mae methiant y cwmni yn golygu y bydd 21,000 o’i weithwyr mewn 16 o wledydd – gan gynnwys 9,000 yng ngwledydd Prydain – yn colli eu swyddi.
Mae gan Thomas Cook hefyd dros 600 o siopau stryd fawr yng ngwledydd Prydain, gan gynnwys 28 yng Nghymru.
Mewn ymateb, dywed Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns: “Er bod hwn yn benderfyniad masnachol, dw i hefyd yn cydnabod ei fod yn gyfnod pryderus ac ansicr i bawb sydd wedi cael eu heffeithio.
“Mae fy adran wedi ymrwymo i gydweithio’n agos gyda’r Adran Drafnidiaeth, yr Awdurdod Hedfan Sifil, Llywodraeth Cymru ac asiantaethau a phartneriaid eraill er mwyn sicrhau fod y rheiny sydd wedi cael eu heffeithio, gan gynnwys Cymry sydd ar wyliau a staff yng Nghymru, yn derbyn cyngor a chefnogaeth frys.”
Mae gwefan benodol ar gael – https://thomascook.caa.co.uk/ – i roi manylion i deithwyr, ond mae’r CAA yn eu rhybuddio i ddisgwyl rhywfaint o oedi.