Mae Heddlu’r De yn cynnal ymchwiliad ar ol i fachgen tair oed gael ei anafu’n ddifrirol mewn gwrthdrawiad ym Mhontypridd ddydd Sul (Medi 22).
Cafodd yr heddlu eu galw i Rhodfa Garth yng Nglyncoch toc wedi 4.30yp ddydd Sul.
Roedd y plentyn yn cerdded ar hyd y ffordd pan fu mewn gwrthdrawiad a char Ford Fiesta lliw arian.
Cafodd y bachgen, sy’n byw’n lleol, ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd lle mae’n parhau mewn cyflwr difrifol.
Ni chafodd gyrrwr y cerbyd ei anafu.
Mae’r heddlu’n apelio ar unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad i gysylltu a nhw ar 101 gan nodi’r cyfeirnod 1900351232.