Mae dyn, 48, wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio dyn o Gastell-nedd a fu ar goll.

Roedd Richard ‘Monkey’ Andrews o ardal Melyn wedi bod ar goll ers mis Ionawr 2018, er mai’r tro diwethaf i rywun ei weld oedd ym mis Medi 2017.

Cafodd ei gorff ei ddarganfod gan aelod o’r cyhoedd ar lannau afon Nedd ar Fedi 29, 2018.

Mae Heddlu De Cymru yn dal i ymchwilio, tra bo’r elusen Taclo’r Taclau yn cynnig hyd at £10,000 o wobr am wybodaeth a allai arwain at arestio neu ddedfrydu’r person sy’n gyfrifol am y llofruddiaeth.