Mae protestio yn digwydd ledled Cymru a’r byd heddiw (dydd Gwener, Medi 20) wrth i ymgyrchwyr alw am weithredu brys yn erbyn newid hinsawdd.
Mae’r cyfan wedi ei ysbrydoli gan ymgyrch byd-eang yr ymgyrchydd ifanc o Sweden, Greta Thunberg, sy’n galw ar lywodraethau’r byd i fynd i’r afael â’r mater cyn ei bod hi’n rhy hwyr.
Rhwydwaith Hinsawdd Myfyrwyr y Deyrnas Gyfunol sy’n bennaf gyfrifol am drefnu’r protestiadau yng ngwledydd Prydain, ond mae llawer o fudiadau eraill wedi ymuno â nhw hefyd.
Ymhlith y lleoliadau yng Nghymru sy’n ganolbwynt i’r protestio mae Caerdydd, Caerfyrddin, Aberystwyth a Bangor.
Galw am weithredu brys
Yn nhref Llanbedr Pont Steffan, daeth bron i 100 o ymgyrchwyr hen ac ifanc ynghyd ar y stryd fawr i ymuno yn yr ymgyrch.
Yn ôl yr ymgyrchydd, Iona Mokandpuri, oedd yn bresennol yn y digwyddiad, bwriad y brotest oedd pwysleisio nad oes “digon yn cael ei wneud” i achub y blaned.
“Mae’r blaned – yn llythrennol – yn marw,” meddai’r fyfyrwraig, 20, wrth golwg360. “Mae’r systemau sydd mewn lle ar hyn o bryd ddim yn barod ar gyfer yr argyfwng rydyn ni’n ei wynebu.
“Yn syml, yr hyn rydyn ni’n galw amdano yw cyfiawnder hinsawdd mewn ymateb i anghyfiawnder hinsawdd.
“Rydyn ni eisiau cartref ac, yn y dyfodol, rydyn ni eisiau i’n plant ac i blant eu plant gael cartref hefyd.
“Dyna beth rydyn ni’n brwydro amdano.”
Protestio ger y Senedd
Mae protestio hefyd yn mynd rhagddo yng Nghaerdydd, ac mi wnaeth rhagor na chant o bobol heidio i risiau’r Senedd i wrthdystio.
Cafodd cloc mawr ei dywys o gwmpas y Bae, a’r nod oedd ei gludo i flaen y Senedd, ond cafodd hynny ei rwystro gan yr heddlu.
Mae’r cloc yn cynrychioli’r syniad bod amser yn brin, a bod angen mynd i’r afael â chynhesu byd eang ar frys, ac mae’r ymgyrchwyr yn gobeithio ei gadw yn y Bae dros y penwythnos.
Roedd llawer o bobol ifanc ynghlwm â’r digwyddiad, ac yn eu plith oedd Yasmin, 15, a fu’n siarad gerbron y gwrthdystwyr.
“Mae yna bobol sydd wedi cael eu heffeithio yn barod gan yr argyfwng hinsawdd,” meddai.
“Dw i’n gwrthod defnyddio’r term ‘newid hinsawdd’. Term y cyfryngau yw hynna, sy’n gwneud i’r mater swnio’n llai difrifol. Mae hyn yn drychineb a dyw hi ddim yn cael ei drin yn ddifrifol!”
FIDEO’R BROTEST YN LLANBEDR PONT STEFFAN