Mae disgwyl i gartref Maes B 2018 gael ei drawsnewid yn gartref i academi pêl-droed.

Mae gwaith eisoes yn mynd rhagddo i dynnu’r adeilad ym Mae Caerdydd yn ddarnau, ac mae disgwyl iddo gael ei ailgodi a’i ailagor yn Llanrhymni yn ganolfan rhagoriaeth.

Steve Borley, Cyfarwyddwr tîm pêl-droed Caerdydd a sefydlydd House of Sport, sydd wedi prynu’r adeilad oddi wrth Gyngor Caerdydd, ac ef fydd yn talu am y gwaith o’i dynnu i lawr.

Bydd hen safle’r adeilad yn wag wedi iddo symud, ac mae’n debyg bod perchennog y tir, Llywodraeth Cymru, wrthi’n ystyried sut i’w ddefnyddio yn y dyfodol.

Yr Eisteddfod

Agorodd yr adeilad glas yn Ganolfan Doctor Who Experience yn 2012, ond mi gaeodd yn 2017, a gan eithrio wythnos Eisteddfod Genedlaethol y llynedd, fyth ers hynny mae wedi bod yn wag.

Roedd yr adeilad yn gartref i gigs ieuenctid yr Eisteddfod honno, ac yno hefyd cafodd seremoni urddo’r Orsedd ei chynnal.