Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cyhoeddi cnw’r dyn tân, 35, a fu farw mewn gwrthdrawiad rhwng dau gwch mewn marina yn Sir Benfro.
Roedd Joshua Gardener o Aberdaugleddau yn aelod o Wasanaeth Tân y Gorllewin a Chanolbarth Cymru.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i farina Neyland ger Aberdaugleddau am tua 11.30yb ddydd Mawrth (Medi 17) wedi i ddau gwch wrthdaro yn ystod sesiwn hyfforddi gan y brigâd dân.
Yn ôl yr heddlu, derbyniodd ymladdwr tân arall fân anafiadau yn ystod y digwyddiad.
Mae’r ymchwiliad yn parhau, medden nhw wedyn. Mae cronfa ar-lein eisoes wedi codi dros £8,000 er cof am Joshua Gardener.