Nathan Cleverly
Cadwodd Nathan Cleverly ei afael ar ei deitl pwysau godrwm WBO yn erbyn y Sais, Tony Bellew neithiwr, ond cael a chael oedd hi i’r Cymro yn yr ornest yn yr Echo Arena yn Lerpwl.

Cleverly oedd y ffefryn cyn y frwydr ond cafwyd perfformiad gwych gan ei wrthwynebwr a rhaid oedd i’r gŵr ifanc o Gaerffili ddibynnu ar benderfyniad dau allan o dri beirniad i sicrhau’r fuddugoliaeth wedi deuddeg rownd agos.

Rhybuddiwyd Bellew yn gynnar yn y rownd gyntaf am ddefnyddio’i ben ond llwyddodd i greu peth argraff gyda’i ddyrnau hefyd yn y rowndiau cynnar. Llwyddodd i lanio aml i ddwrn dde lân ond ychydig o effaith a gawsant ar Cleverly. Dangosodd hynny trwy dynnu ei dafod a dawnsio yn haerllug.

Ond doedd gan Cleverly ddim rheswm i fod haerllug yn y chwe rownd gyntaf mewn gwirionedd ond yna yn ail hanner yr ornest dechreuodd ddod fwyfwy i mewn iddi.

Wedi dweud hynny, daliodd Bellew ef gydag ergyd galed â’i law dde yn y ddegfed rownd ond arhosodd y Cymro yn gadarn ar ei draed. A Cleverly orffennodd gryfaf gan ddangos profiad a phroffesiynoldeb yn y rowndiau olaf i gadw trefn ar ei wrthwynebwr a phlesio’r beirniaid.

Er i un o’r rheiny sgorio’r ffeit yn gyfartal, rhoddodd y ddau arall hi i Cleverly, y naill o 117-112 a’r llall o 116-113. Mae Cleverly yn aros yn ddiguro felly gyda thrydedd buddugoliaeth ar hugain ei yrfa. Mae’r paffiwr pedair ar hugain yn cadw ei afael ar ei deitl WBO felly a’i obaith yn awr fydd ychwanegu un neu ddwy o’r beltiau eraill at honno. Bydd Bellew ar y llaw arall yn awyddus i herio Cleverly eto.