Cwpan Rygbi'r Byd
Seland Newydd fydd yn wynebu Ffrainc yn rownd olaf Cwpan Rygbi’r Byd ar ôl curo Awstralia 20 – 6.

Dyma fydd y tro cyntaf iddyn nhw gyrraedd y gêm olaf ers 1995.

Y Crysau Duon oedd y tîm cryfaf o bell ffordd ac roeddyn nhw ar y blaen o 6 i 14 yn erbyn Awstralia ar ddiwedd hanner cyntaf ar gae Eden Park yn Auckland.

Fe gurodd Ffrainc Cymru ddoe ar yr un maes o un pwynt wedi gêm ddadleuol.