Sam Warburton
Cafodd Capten tîm rygbi Cymru ei wahardd rhag chwarae am dair wythnos heddiw ar ôl cael ei anfon o’r cae am dacl beryglus yn y gêm gynderfynol yng Nghwpan Rygbi’r Byd rhwng Cymru a Ffrainc.
Ni fydd felly yn chwarae yn gêm olaf Cymru i ganfod pwy fydd yn y trydydd safle yng ngornest Cwpan Rygbi’r Byd.
Fe wnaeth Warburton gyfaddef ei fod ‘wedi taclo’n beryglus” ond mae ganddo 48 awr i apelio yn erbyn y dyfarniad.
Fe wnaeth y swyddog cyfreithiol annibynnol Christopher Quinlan CyF, benderfynu bod y drosedd yng nghanol y raddfa o ddifrifoldeb. Gall chwaraewr gael ei wahardd am 6 wythnos am drosedd o’r math gwaethaf.
“Yn naturiol dwi wedi fy siomi,” meddai “ond mi fydd fy holl sylw a ffocws rwan ar y chwaraewyr fydd wrthi dydd Gwener ac fe fydda’i yn eu cefnogi nhw cymaint ac y galla’i”.
Roedd Pennaeth Materion Cyfreithiol Undeb Rygbi Cymru yn y gwrandawiad efo Sam Warburton.
“Mae URC yn parchu’r broses ac ni fyddwn yn gwneud unrhyw sylw ar fanylion y gwrandawiad” meddai Rhodri Lewis. “Yr ydym beth bynnag yn siomedig dros Sam na chaiff chwarae dydd Gwener . Bydd ein ffocws rwan ar y gêm.”