Taith hir iawn yn ôl i brifddinas Cymru fydd hi i’r Gleision wedi colli’n drwm yn Newcastle yn eu gêm agoriadol yng nghwpan LV eleni. 33-3 o blaid y tîm cartref oedd hi ar Barc Kingston nos Sadwrn, diolch yn bennaf i hatric o geisiau gan Greg Goosen.

Er bod Newcastle ar waelod eu cynghrair nhw a’r Gleision yn agos at frig y Pro12 roedd y tîm o ogledd ddwyrain Lloegr yn llawer rhy gryf i dîm di brofiad y Gleision, a chroesodd yr Hebogau am bum cais i gyd.

Daeth y cyntaf o’r rheiny wedi dim ond dau funud o’r gêm pan groesodd y blaenasgellwr Mark Wilson am gais cyntaf y noson i’r tîm cartref.  Llwyddodd Jimmy Gopperth gyda’r trosiad i’w gwneud hi’n 7-0.

Wedi hynny, gêm Goosen oedd hi. Y cefnwr sgoriodd dri chais nesaf Newcastle, dau yn yr hanner cyntaf wedi saith munud a 24 munud ac yna un arall wedi 12 munud o’r ail hanner. Llwyddodd Gopperth gyda dau allan o’r tri throsiad, 26-0 y sgôr a’r pwynt bonws yn ddiogel.

O leiaf, fe lwyddodd y Glesision i osgoi’r cywilydd o fethu sgorio’r un pwynt diolch i gic gosb Rhys Patchell wedi 54 munud. Ond Newcastle yn haeddiannol a gafodd y gair olaf  gyda chais i Michael Mayhew ar yr awr. Ychwanegodd Gopperth ddau bwynt i’w gwneud hi’n 33-3 ac felly yr arhosodd hi tan y chwiban olaf.

Canlyniad siomedig i’r Gleision ond profiad amhrisiadwy i’r chwaraewyr ifanc.