Parc y Scarlets
Y Scarlets oedd yr unig ranbarth o Gymru i ennill ar benwythnos agoriadol Cwpan LV eleni wrth iddynt drechu cewri Caerlŷr o 31-3 ar Barc y Scarlets nos Sadwrn.
Sgoriodd bois tre’r sosban bum cais wrth roi cweir iawn i un o dimau cryfaf Uwchgynghrair Aviva. Efallai fod Caerlŷr yn agos at waelod y gynghrair honno ar hyn o bryd ond ni ddylai hynny dynnu oddi ar gamp y tîm o Gymru.
Serch hynny, yr ymwelwyr aeth ar y blaen diolch i gic gosb gan eu maswr, George Ford. 3-0 i Gaerlŷr wedi 10 munud ond noson y Scarlets oedd hi wedi hynny.
Keiron Murphy sgoriodd ddau gais cyntaf y tîm cartref, y naill wedi 13 munud a’r llall ar ôl 33 munud. Methodd Aled Thomas gyda’r trosiad cyntaf cyn llwyddo gyda’r ail i’w gwneud hi’n 12-3. Ond roedd un cais arall i ddod cyn yr egwyl diolch i Matt Gilbert wedi 35 munud. 17-3 y sgôr ar yr egwyl.
Ychwanegwyd dau gais arall gan ddau Williams yn yr ail hanner, un i’r asgellwr, Liam Williams ac un i’r eilydd o faswr, Jordan Williams. Llwyddodd Jordan Williams gyda dau drosiad hefyd wrth iddi orffen yn 31-3.
Dyma ail fuddugoliaeth y Scarlets mewn dwy gêm yn dilyn dechrau anodd i’r tymor, a chyda gymaint o ser i ddychwelyd i’r garfan o Seland Newydd mae pethau’n argoeli’n dda i’r tîm o Lanelli dros y misoedd i ddod.