Cais cyntaf dros y Dreigiau i’r gwibiwr o Dde Affrica, Tonderai Chavhanga oedd un o’r unig bethau calonogol i ddeillio o’r grasfa yma ar Rodney Parede.

Mae Caerfaddon yn 7fed yn Uwchgynghrair Aviva tra mae’r Dreigiau yn loetran tua gwaelodion y RaboDirect Pro12 ac roedd y gwahaniaeth yn amlwg wrth i’r ddau dîm gyfarfod yn y gwpan Eingl-gymreig.

Roedd hi’n ddigon cystadleuol yn yr hanner cyntaf er i Ollie Woodburn groesi am gais cyntaf y gêm i Gaerfaddon wedi dim ond dau funud. Tarodd Mathew Jones yn ôl i’r Dreigiau gyda chic gosb i’w gwneud hi’n 3-5 wedi pum munud.

Wrth gwrs, mantais fawr i glybiau Lloegr yn wythnos agoriadol y gwpan hon eleni yw’r ffaith fod eu tîm rhyngwladol wedi dychwelyd o Seland Newydd ers wythnos a rhai o’r chwaraewyr ar gael i chwarae’r penwythnos hwn. Un o’r chwaraewyr hynny, Matt Banahan roddodd Gaerfaddon ymhellach ar y blaen wedi 11 munud, 12-3 y sgôr wedi trosiad Tom Heathcote.

Ond yna cafwyd cyfnod da gan y Dreigiau. Trosodd Jones gic gosb i gau’r bwlch wedi chwarter awr cyn i Chavhanga dirio funud yn ddiweddarach. Yn dilyn trosiad Jones roedd y Dreigiau ar y blaen o 13-12.

Ond tarodd yr ymwelwyr yn ôl gyda chais i’r asgellwr, Tom Biggs wedi 18 munud i’w gwneud hi’n 13-17. Yna cyfnewidiodd Heathcote a Jones giciau cosb cyn yr egwyl i’w gwneud hi’n 16-20.

Agos ar hanner amser felly ond dim ond un tîm oedd ynddi yn yr ail hanner wrth i Gaerfaddon sgorio pedwar cais arall. Mathew Carraro, Will Spencer, Jack Cuthbert  ac Anthony Perenise sgoriodd y ceisiau gyda Heathcote yn ychwanegu tri allan o bedwar trosiad.

Ymddengys fod talcen caled yn wynebu’r Dreigiau yn y gystadleuaeth hon yn ogystal â’r Pro12 eleni. Mae angen chwaraewyr fel Lydiate, Faletau a Charteris yn ôl arnynt a phwy a ŵyr wedyn, efallai y gwelwn y llanw’n troi.