Logo'r Gweilch
Gwelwyd perfformiad dewr gan dîm ifanc y Gweilch yng Nghaerwysg nos Sadwrn ond roedd pac y tîm cartref yn llawer rhy gryf ac roedd y bwlch yn un mawr erbyn y chwiban olaf wrth i’r Saeson ennill o 35-9.
Roedd hi’n ugain munud agoriadol digon agored ym Mharc Sandy ond yr unig bwyntiau i ddangos am hynny oedd un gic gosb yr un i’r ddau dîm. Maswr Caerwysg, Gareth Steenson yn llwyddiannus gyda’i gynnig ef wedi 8 munud a’r maswr ifanc addawol, Matthew Morgan yn unioni’r sgôr i’r Gweilch wedi chwarter awr.
Yna, wedi 26 munud daeth cais cyntaf y gêm. Cyfres o linellau a sgrymiau yn 22 metr y Gweilch yn arwain at droseddu a chais cosb i’r tîm cartref. Llwyddodd Steenson gyda’r trosiad i’w gwneud hi’n 10-3.
Fu dim rhaid i’r cefnogwyr y ‘Chiefs’ aros yn hir am gais arall. Llinell i Gaerwysg yn ddwfn yn hanner y Gweilch a’r blaenasgellwr Ben White yn torri’n rhydd cyn i’r prop, John Andress dirio yng nghanol twmpath o gyrff ar y llinell. Roedd Steenson yn llwyddiannus gyda’r trosiad eto wrth i’r bwlch dyfu i 17-3.
Gorffen yr Hanner yn Gryf
Ond fe bwysodd y tîm o Gymru yn dda yn chwarter awr olaf yr hanner ac roeddynt yn haeddu’r tri phwynt arall a gawsant o droed Mathew Morgan wedi 36 munud.17-6 ar yr hanner felly ond roedd y Gweilch dal yn y gêm ac yn edrych yn dda yn y chwarae agored.
Caerwysg sgoriodd gyntaf yn yr ail hanner. Gyda sgrym y Gweilch yn gwegian rhoddwyd cic gosb arall i’r tîm cartref a llwyddodd Steenson gyda’r gic at y pyst.
Tarodd y Cymry yn ôl gyda chic gosb gan Morgan wedi 53 munud yn dilyn dwylo yn y ryc gan Gaerwysg. Dim ond dwy sgôr oedd ynddi erbyn hyn ond methu manteisio a wnaeth y Gweilch. Roedd ei sgrym dan bwysau aruthrol a’r canlyniad oedd cic gosb arall a tri phwynt arall i Gaerwysg wedi 55 munud.
Dau Gais Hwyr
Roedd y fuddugoliaeth yn saff i’r Saeson wrth i’r gêm dynnu at ei therfyn a halen yn y briw i’r Gweilch oedd y ddau gais hwyr i’r tîm cartref. Symudiad gorau’r gêm a greodd gais yn y gornel i’r Cymro, Phil Dollman wedi 71 munud. Yna, sicrhaodd Caerwysg y pwynt bonws gyda symudiad olaf y noson, cais i’r eilydd, Josh Tatupa. Trosodd Steenson y cais hwnnw wrth iddi orffen yn 35-9.
Ymateb cymysglyd oedd gan Steve Tandy, hyfforddwr y Gweilch wedi’r gêm “Fe ddangosodd y chwaraewyr ifanc gymeriad heno ac mae yna bethau calonogol i’w cymryd o’r gêm, ond bydd rhaid i ni edrych ar ein lein a’r sgrym a gweithio ar hynny.”
Ymdrech ddewr gan dîm ifanc y Gweilch felly ond Caerwysg dipyn rhy gryf yn y diwedd.