Mae aelodau o fudiad sy’n ymgyrchu am annibyniaeth i Gymru wedi bod yn dadlau ynghylch y cwestiwn – “Oes angen prifddinas ar Gymru o gwbl?” Yn ôl Harvey Waveney mewn erthygl ar wefan grŵp Undod, fe ofynnwyd y cwestiwn “syml” gan Elin Hywel o Gwmni Bro Ffestiniog mewn digwyddiad anffurfiol a gynhaliwyd wedi’r orymdaith annibyniaeth ym Merthyr Tudful ar Fedi 7.
Ac wrth bendroni ynghylch y cwestiwn, dywed y blogiwr ei fod hefyd “yn un mor radical gan ei fod yn ein gorfodi i gwestiynu rhai o’n rhagdybiaethau mwyaf elfennol am beth yw cenedl.”
“Ydyn ni eisiau Cymru lle mae grym gwleidyddol mor ddibynnol ar un ddinas?” meddai Harvey Waveney yn ei lith.
“Ni ŵyr Llundain beth sydd orau i Flaenau Ffestiniog, Abertawe neu’r Rhyl – ac ni ŵyr Caerdydd chwaith.
“Un o’r prif gwynion sydd gan bobol am y llywodraeth yw ei bod yn bell, ynysig ac nad oes ots ganddi am anghenion a dyheadau lleol.”
Mwy o rym i gymunedau
Mae Harvey Waveney yn dadlau y gallai “llechen lân annibyniaeth” arwain at rym yn cael ei rannu ar lawr gwlad, gan droi “pob cymuned [yn] brif sylfeini ein democratiaeth”.
“Nid oes rhaid i hyn olygu encilio i blwyfoldeb lleol – i’r gwrthwyneb,” meddai. “Drwy barchu hunanlywodraeth leol, gallwn ni gydweithio ar delerau mwy cyfartal.
“Mi allai cynulliadau lleol gonffederaleiddio i fyny i’r lefel tref, dinas, rhanbarthol a chenedlaethol er mwyn gweithio ar brosiectau isadeiledd, polisi tramor, cydlynu polisi domestig cenedlaethol a thynnu ynghyd adnoddau er mwyn gwella ardaloedd tlotach.
“Yn aml, cyfeirir at Gymru fel ‘cymuned o gymunedau’. Dylai ein gwleidyddiaeth adlewyrchu hynny.
“Mae hyd yn oed dadl i’w gwneud bod profiad canoli grym y ganrif neu ddwy ddiwethaf yn estron i fywyd gwleidyddol ehangach ein cenedl.”