Mae Gweinidog y Gymraeg, Eluned Morgan, wedi cael ei beirniadu’n hallt gan ymgyrchwyr iaith wedi iddi wrthod darparu gwersi Cymraeg rhad ac am ddim i ffoaduriaid.

Ar hyn o bryd, mae hawl gan ffoaduriaid a cheiswyr lloches dderbyn gwersi Saesneg yn rhad ac am ddim, ond dyw’r un cynnig ddim ar gael ar gyfer gwersi Cymraeg.

Mewn ymateb i lythyr oddi wrth Gymdeithas yr Iaith, dywed Eluned Morgan: “Nid ydym am i’r drefn [o ffioedd am wersi Cymraeg] wahaniaethu rhwng unrhyw grwpiau penodol o ddysgwyr.”

Yn ôl Cymdeithas yr Iaith, mae Eluned Morgan hefyd yn gwrthod eu syniad o lunio polisi ar gyfer estyn yr iaith at fudwyr.

“Camwahaniaethu”

“Rydym yn hynod siomedig bod y Gweinidog wedi gwneud datganiad adweithiol sy’n cyfrannu at allgau rhai grwpiau o’r Gymraeg, tra ei bod yn honni ei bod yn trin pawb yr un peth,” meddai Tamsin Davies o Gymdeithas yr Iaith.

“Mae’r polisi presennol sy’n caniatáu codi ffi ar geiswyr lloches i ddysgu Cymraeg yn camwahaniaethu yn eu herbyn nhw.

Ychwanega: “Mae cynllun clodwiw y Llywodraeth i wneud Cymru’n ‘Genedl Noddfa’ yn nodi y bydd y Llywodraeth yn ‘Sicrhau bod ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn cael eu cynnwys mewn cyfleoedd i ddysgu Cymraeg’.

“Mae gwersi Saesneg ar gyfer y grwpiau yma am ddim, felly does dim amheuaeth na ddylai gwersi Cymraeg fod am ddim hefyd.”